Sut i wneud gwrych ar gyfer bywyd gwyllt

Sut i wneud gwrych ar gyfer bywyd gwyllt

Mae gwrychoedd yn darparu lloches a gwarchodaeth bwysig i fywyd gwyllt, yn enwedig adar sy'n nythu a phryfed sy'n gaeafgysgu.

Mae gwrychoedd yn ddewis gwell o ffin i fywyd gwyllt na ffensys neu waliau, yn enwedig os yw coed a llwyni brodorol yn cael eu defnyddio. Mae gwrychoedd yn caniatáu i fywyd gwyllt symud o gwmpas rhwng gerddi a mannau eraill, ac yn darparu cyfleoedd bwydo a magu.

Mae gwrychoedd yn cynnig bwyd ar ffurf dail, blodau llawn neithdar, aeron, ffrwythau, hadau a chnau, ac maen nhw hefyd yn diroedd hela da i ysglyfaethwyr sy'n chwilio am bryfed ac infertebrata eraill. Maen nhw’n gysgod naturiol rhag y gwynt, gan greu ardaloedd cysgodol yn yr ardd, sy'n arbennig o bwysig i löynnod byw. Maen nhw hefyd yn creu ardaloedd o gysgod, gan gynyddu'r amrywiaeth o gynefinoedd yn yr ardd ar gyfer bywyd gwyllt a phobl! Mae gwrychoedd a choed anffurfiol yn well na'r rhai sy'n cael eu tocio'n rheolaidd; er enghraifft, dim ond ychydig neu ddim blodau ac aeron fydd drain gwynion, celyn a phrifet yn eu cynhyrchu o’u tocio’n gyson. 

Mae plannu gwrychoedd yn lle defnyddio ffensys a waliau’n caniatáu i fywyd gwyllt deithio a dod o hyd i fwyd a chysgod yn haws, ac yn golygu bod amrywiaeth ehangach o gynefinoedd yn eich gardd chi!

Dewis eich planhigion:

Mae llwyni a choed brodorol fel drain gwynion, masarn bach, drain duon, ffawydd, oestrwydd a chelyn yn gymysgedd delfrydol o blanhigion gwrych. Tyfwch blanhigion crwydrol, fel rhosyn gwyllt, mieri a gwyddfid, drwy eich gwrych i ddarparu mwy fyth o loches a bwyd i fywyd gwyllt.

Mae eiddew yn arbennig o fuddiol i adar sy'n nythu ac mae'n blodeuo yn yr hydref pan nad oes llawer o ffynonellau eraill o neithdar ar gael i bryfed. Ewch ati i ddenu bywyd gwyllt drwy ei dyfu i fyny i goed mawr.

Plannu eich gwrychoedd:

Yr amser gorau ar gyfer plannu yw rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth, ond peidiwch byth â phlannu mewn tir llawn dŵr neu dir wedi rhewi. Mae planhigion noeth sydd â gwreiddiau’n rhatach, ond cymerwch ofal i beidio â gadael i’r gwreiddiau fod yn y golwg am amser hir wrth blannu. Hyd nes eu bod wedi sefydlu, cadwch fôn eich planhigion yn rhydd o chwyn gyda thomwellt trwchus neu fat.

Ar gyfer gwrych brodorol cymysg, ceisiwch gynnwys tri phlanhigyn o'r un rhywogaeth fesul 1 m (3 ¼ tr) gydag un o bob un o ddwy rywogaeth arall.

Cynnal a chadw eich gwrychoedd:

Ni ddylid tocio gwrychoedd tan ddiwedd y gaeaf neu ddechrau'r gwanwyn fel bod bywyd gwyllt yn gallu manteisio ar y pryfed a'r ffrwythau sy’n cael eu darparu yn ystod misoedd y gaeaf.

Yn y gwanwyn cyntaf, torrwch lwyni yn ôl i 45 i 60 cm (18 i 25 modfedd) uwchben y ddaear. Mae hyn yn annog tyfiant y llwyni.

Blackthorn

©Ross Hoddinott/2020VISION

Cyngor doeth

  • Er mwyn gwarchod adar, ni ddylid tocio gwrychoedd bywyd gwyllt yn ystod y tymor nythu (Mawrth i Awst). Ceisiwch dorri rhannau o'r gwrych ar wahanol adegau, fel bod llecyn heb unrhyw darfu arno i fywyd gwyllt bob amser.
  • Bydd ongli eich planhigion ar tua 45 gradd wrth i chi eu plannu yn eich helpu chi i sefydlu gwrych sydd ddim yn rhy denau yn ei fôn.

Y planhigion a awgrymir: