Sut i wirio eich coelcerth am ddraenogod

Sut i wirio eich coelcerth am ddraenogod

Fe all pob un ohonom ni gymryd camau i ddiogelu draenogod ar noson tân gwyllt. Dilynwch ein 4 cam i wneud yn siŵr eich bod yn cadw draenogod yn ddiogel.

Mae coelcerthi’n beryglus iawn i ddraenogod, gan fod pentyrrau o bren yn llefydd delfrydol i gysgodi. Yn anffodus, mae llawer o ddraenogod yn dioddef oherwydd coelcerthi heb eu gwirio, ac yn cael eu lladd oherwydd hyn.

Dyma 4 cyngor doeth i’ch helpu chi i osgoi niweidio draenogod yn eich coelcerth:

  1. Cadwch y deunyddiau ar gyfer eich coelcerth mewn lle diogel – wedyn, ar y diwrnod rydych chi’n bwriadu ei chynnau, symudwch y deunyddiau i ddarn gwahanol o dir.
  2. Adeiladwch y goelcerth ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ei chynnau. Po hiraf y bydd y pentwr yn cael ei adael yn ei le, y mwyaf tebygol ydi y bydd draenog yn crwydro i mewn iddo.
  3. Rhowch y goelcerth ar dir agored bob amser – peidiwch byth â’i rhoi ar bentwr o ddail oherwydd gallai draenog fod yn cuddio oddi tano.
  4. Gwiriwch y goelcerth gyfan am ddraenogod bob amser cyn ei chynnau. Maen nhw’n tueddu i guddio yng ngwaelod canol y pentwr.

Os dewch chi o hyd i ddraenog, symudwch yn araf ac yn bwyllog. Codwch y draenog gan ddefnyddio menig garddio, a chodi unrhyw ddeunydd nythu roedd yn eistedd ynddo efallai, a’i roi mewn bocs cardfwrdd sydd wedi’i leinio gyda phapur newydd. Symudwch y bocs i leoliad diogel a rhyddhau’r draenog o dan lwyn neu bentwr o foncyffion.