Mae gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru nifer o brosiectau partneriaeth sy'n dod â phobl yn agosach at natur, ac yn sicrhau Dyfodol Wilder i fywyd gwyllt yng Nghymru.
Ymgyrchu dros gynefinoedd ac anifeiliaid, deddfwriaeth gryfach, cadwraeth bywyd gwyllt neu i warchod llefydd gwyllt. Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn ymgyrchu dros newid cadarnhaol i natur a phobl. Mae ein hymgyrchoedd cenedlaethol diweddaraf ar y dudalen hon - gofynnwch i'ch Ymddiriedolaeth Natur am ymgyrchoedd lleol y gallwch chi eu cefnogi hefyd!
Wetlands can accumulate carbon for centuries, but in some areas of the UK we have lost over 90% of our wetland habitat. Restored wetlands provide rich habitat, clean water naturally and reduce flood risk downstream. Less drainage and over-abstraction, the return of beavers and naturalising rivers will lock up more carbon.
Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd a natur, ac mae cysylltiad anorfod rhwng y ddau. Mae newid yn yr hinsawdd yn sbarduno dirywiad natur, ac mae colli bywyd gwyllt a llefydd gwyllt yn ein gadael mewn sefyllfa wael i leihau allyriadau carbon ac addasu i newid.
Gweithiwn yn galed iawn i roi llais i natur. Rydym yn wynebu argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, rhaid i ni weithredu nawr i sicrhau dyfodol i fywyd gwyllt Cymru a thu hwnt. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn ogystal â phartneriaid eraill i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio tuag at adferiad natur yng Nghymru.