Ar adegau, mae'n teimlo fel pe bai'r byd yn gweiddi. Mae’r penawdau'n llawn argyfyngau, gwrthdaro ac ansicrwydd sy’n ddigon swnllyd i foddi popeth arall bron. Ond o dan y sŵn hwnnw, mae rhywbeth tawelach yn digwydd, rhywbeth hŷn ac agosach. Tra mae digwyddiadau byd-eang yn tynnu ein ffocws ni tuag allan, mae'r tir o dan ein traed yn adrodd ei stori ei hun, un sy'n parhau i fod yn llawn gobaith, posibilrwydd ac adnewyddu, os byddwn yn dewis gwrando.
Mae Cymru ar groesffordd
Mae dirywiad byd natur yng Nghymru yn real, gydag 1 o bob 5 rhywogaeth mewn perygl o ddifodiant. Ond yr un mor real yw'r potensial i wyrdroi hyn. Mae'r dirwedd rydyn ni’n ei gweld heddiw’n adlewyrchu dewisiadau'r gorffennol; bydd y dirwedd mae ein plant ni’n ei hetifeddu’n adlewyrchu'r dewisiadau rydyn ni’n eu gwneud nawr. Ond tu ôl i’r sŵn, mae rhywbeth hynod bwysig yn datblygu: stori byd natur yng Nghymru a’r cyfle sydd gennym ni o hyd i’w adfer. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur eisiau dychmygu Cymru lle mae afonydd yn llifo’n glir, lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu mewn caeau a gwrychoedd, lle mae ffermydd yn ffynnu, nid dim ond yn goroesi. Nid ffantasi yw hyn; rydyn ni’n credu ei fod yn gyraeddadwy, ond mae gofyn i ni edrych ar y dyfodol yn wahanol.
Does dim rhaid i stori byd natur yng Nghymru fod yn un am ddirywiad. Gall fod yn stori am adnewyddu, gwydnwch, a phwrpas a rennir. Nid anobaith ydi’r ffocws, ond eglurder a gweithredu wedi'i wreiddio mewn gobaith. Ydi, mae ansicrwydd gwleidyddol a chymdeithasol yn gallu cysgodi cynnydd.
Mae’r hinsawdd a byd natur yn gallu teimlo fel problemau “yn nes ymlaen” mewn byd sy’n llawn problemau “y funud yma”.
Ond mae eu hanwybyddu nawr eisoes yn effeithio ar ein bywydau ni: cartrefi dan ddŵr y mis yma ac yn wynebu sychder y mis nesaf, ffermio’n dioddef yr un ffawd, prisiau bwyd yn codi tra mae stormydd yn cyrraedd un ar ôl y llall. Rydyn ni wedi datrys heriau mawr o'r blaen ac felly fe allwn ni wynebu’r un yma hefyd. Ond mae'n rhaid i ni symud ein ffocws tuag at yr hyn sy'n gwneud Cymru'n unigryw er mwyn i ni allu agor posibiliadau yma yng Nghymru.