Ym mis Mai 2026, bydd pobl ledled Cymru yn mynd i'r polau i ethol aelodau newydd o'r Senedd. Ar yr wyneb, efallai y bydd yn teimlo fel cylch etholiad arall. Ond mae'r etholiad hwn yn dod ar adeg dyngedfennol, i natur, i'n cymunedau, ac i ddyfodol Cymru.
Fel aelodau a chefnogwyr yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, rydych chi eisoes yn gwybod bod natur yng Nghymru yn eithriadol. O goetiroedd hynafol a mawndiroedd i afonydd, arfordiroedd a moroedd, mae ein hamgylchedd naturiol wedi'i blethu'n ddwfn i bwy ydym ni.
Ond byddwch chi hefyd yn gwybod am y dirywiad enfawr mewn natur a'i fod o dan bwysau difrifol. Mae'r dystiolaeth yn amlwg.
Nododd yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol diweddar fod bywyd gwyllt yn parhau i ddirywio ar gyflymder brawychus, gydag 1 allan o bob 5 rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru.
Mae llawer o rywogaethau'n diflannu o leoedd lle roeddent yn gyffredin ar un adeg, ac mae'r cynefinoedd y maent yn dibynnu arnynt yn mynd yn llai, yn fwy darniog, ac yn fwy dirywiedig. Mae newid hinsawdd, llygredd, a defnydd tir anghynaliadwy i gyd yn dwysáu'r pwysau hyn.
Ond drwy ein gwaith a'n cydweithrediadau, rydym yn gwybod y gall natur ddychwelyd pan roddir lle iddi adfer. Y cwestiwn sy'n ein hwynebu nawr yw a fydd gan y Senedd nesaf yr uchelgais, yr arweinyddiaeth a'r ymrwymiad sydd eu hangen i droi'r llanw.
Pam mae'r Senedd yn bwysig i natur
Mae penderfyniadau a wneir gan y Senedd yn llunio bron pob agwedd o dyfodol natur yng Nghymru. O sut mae tir a moroedd yn cael eu rheoli, i sut mae ffermio'n cael ei gefnogi, i sut mae penderfyniadau cynllunio'n cael eu gwneud, mae gan y polisïau y cytunwyd arnynt ym Mae Caerdydd effeithiau gwirioneddol, parhaol ar natur ac ar fywydau pobl.