Moment hanesyddol i afancod Cymru

Moment hanesyddol i afancod Cymru

Beaver © Sam Alexander Photography

Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru a’r Beaver Trust wedi rhoi croeso brwd i ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru sy'n cydnabod yr afanc Ewrasiaidd (Castor fiber) fel rhywogaeth frodorol ac yn rhoi statws gwarchodedig iddo – carreg filltir bwysig ar gyfer adfer y rhywogaeth i dirwedd Cymru.

Mae'r cam hwn yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yng Nghymru yr un fath â’r ddeddfwriaeth warchod mewn rhannau eraill o Brydain ac yn adlewyrchu cefnogaeth gref gan y cyhoedd a'r sector cadwraeth i ddychweliad afancod a'u manteision ecolegol.

Y llynedd, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn cydnabod afancod yn swyddogol fel rhywogaeth frodorol ac yn ymestyn statws Rhywogaeth Warchodedig Ewropeaidd iddynt yng Nghymru. Daw'r ddeddfwriaeth newydd i rym o 4ydd Mawrth 2026 ac mae'r cam diweddaraf hwn yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Alicia Leow-Dyke, Swyddog Prosiect Afancod Cymru ar gyfer Ymddiriedolaethau Natur Cymru:

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio tuag at y nod yma o warchodaeth gyfreithiol i afancod yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, felly rydyn ni wrth ein bodd gyda’r canlyniad gwych yma. Mae afancod yn chwarae rhan hanfodol yn ein hecosystemau ni ac mae eu cydnabod yn ffurfiol fel rhywogaeth frodorol yn beth iawn i’w wneud. Mae’n nodi carreg filltir hanfodol o ran ailsefydlu afancod gwyllt yng Nghymru. Diolchwn i Lywodraeth Cymru am wrando ar yr holl dystiolaeth a gwneud y penderfyniad cywir.”

Dywedodd Richard Young, Prif Swyddog Gweithredol y Beaver Trust:

“Rydyn ni’n croesawu’r penderfyniad i roi gwarchodaeth gyfreithiol i afancod yng Nghymru yn fawr iawn. Mae afancod yn darparu amrywiaeth anhygoel o fuddion i’n hecosystemau ni, gan wneud hwn yn gam hynod gadarnhaol ar gyfer adferiad byd natur. Mae’r penderfyniad nodedig yma’n adlewyrchu blynyddoedd o ymrwymiad a chydweithrediad gan gadwraethwyr, cymunedau a llunwyr polisïau, pob un yn gweithio’n ddiflino i greu Cymru wydnach a mwy bioamrywiol.”   

Dywedodd Karen Whitfield, Cyfarwyddwr Cyswllt Amgylchedd Cymru:

“Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn croesawu’r penderfyniad i warchod afancod yn gyfreithiol yng Nghymru. Mae hwn yn gam arwyddocaol a allai gyflymu adferiad byd natur ar draws dalgylchoedd afonydd Cymru. Mae ailgyflwyno sy’n cael ei reoli’n gyfrifol, wedi’i seilio ar ymgysylltu cymunedol da, tystiolaeth gref, ac asesiadau effaith, yn hanfodol bellach i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau manteision afancod yn afonydd Cymru.”

Ar un adeg roedd afancod yn gyffredin ledled Cymru, ond oherwydd gorhela gan bobl, am eu ffwr a’u cig yn bennaf, wynebu difodiant oedd eu hanes ar ôl yr Oesoedd Canol yng Nghymru ac, erbyn diwedd yr 16eg ganrif, roeddent wedi diflannu o weddill Prydain. Fel peirianwyr ecosystemau, gall ymddygiad naturiol afancod helpu i adfer a rheoli ecosystemau dŵr croyw, a chreu tirweddau sy’n wydn o ran yr hinsawdd – felly mae’r cyhoeddiad diweddar hwn yn newyddion ardderchog i fywyd gwyllt a phobl.

Canfu arolwg gan Brifysgol Caerwysg yn 2023 fod 88.70% o'r ymatebwyr yng Nghymru yn cefnogi afancod gwyllt gydag 83.72% eisiau iddynt gael 'gwarchodaeth gyfreithiol gref', felly bydd y camau hyn yn cael eu croesawu gan fwyafrif helaeth pobl Cymru.

Drwy Brosiect Afancod Cymru, mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru wedi bod yn gweithio ers 20 mlynedd i adfer afancod gwyllt i dirwedd Cymru ac mae'r penderfyniad diweddaraf hwn yn nodi'r cam mwyaf arwyddocaol hyd yma wrth gyflawni'r weledigaeth honno. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur a’r Beaver Trust wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid o rwydwaith Cyswllt Amgylchedd Cymru i sicrhau gwarchodaeth i afancod yng Nghymru. Rhoddwyd statws gwarchodedig i'r rhywogaeth yn yr Alban yn 2019 ac yn Lloegr yn 2022, felly mae'r cam hwn yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yng Nghymru yn cyd-fynd â gweddill Prydain.

Mae gan yr Ymddiriedolaethau Natur a’r Beaver Trust gynrychiolaeth ar Fforwm Afancod Cymru, a sefydlwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod trafodaethau'n parhau rhwng rhanddeiliaid i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon a chynyddu'r manteision mae afancod yn eu cynnig.

Drwy’r Prosiect Byw Gyda Afancod yn Nalgylch Dyfi, mae Prosiect Afancod Cymru dan arweiniad yr Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru wedi bod yn datblygu Rhwydwaith Rheoli Afancod i Gymru. Mae hwn yn cael ei gyllido gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau), sy’n cael ei chyflwyno gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Nodiadau i olygyddion:

Mae 46 o Ymddiriedolaethau Natur ar hyd a lled y DU ac ar Ynysoedd Manaw ac Aldernay. Rydym yn gweithio dros amgylchedd sy’n cynnig cyfoeth o fywyd gwyllt i bawb. Gydag 800,000 o aelodau, ni yw’r sefydliad gwirfoddol mwyaf yn y DU sy’n ymroddedig i gadwraeth yr amrywiaeth lawn o gynefinoedd a rhywogaethau yn y DU, boed yng nghefn gwlad, mewn dinasoedd neu ar y môr. Mae 134,000 o’n haelodau’n perthyn i’r gangen iau, sef y Clwb Gwylio. Rydym yn rheoli 2,200 o warchodfeydd natur sydd yn ymestyn dros fwy nag 80,000 o hectarau; rydym yn sefyll dros fyd natur; rydym yn ysbrydoli pobl ynghylch y byd naturiol ac rydym yn meithrin byw cynaliadwy.

Ymddiriedolaethau Natur Cymru yw llais cyfunol y pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru - Gogledd Cymru, Sir Faesyfed, Sir Drefaldwyn, Gwent, a De a Gorllewin Cymru - sy'n ceisio adferiad byd natur, i ysbrydoli pobl i gymryd camau ystyrlon dros fyd natur ac i gydnabod rôl byd natur wrth fynd i'r afael â materion lleol a byd-eang.

Gyda'i gilydd, mae’r Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru yn cynrychioli mwy na 34,000 o aelodau ac yn gofalu am fwy na 300 o warchodfeydd natur, gan warchod mwy nag 8,000 o hectarau o rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr y wlad. O goetiroedd hynafol a glaswelltiroedd sydd â chyfoeth o rywogaethau i wlybdiroedd a hafanau bywyd gwyllt trefol bywiog, mae'r llecynnau gwyllt yma’n ffurfio asgwrn cefn ein cenhadaeth ni i helpu byd natur i adfer.

Mae ein pwrpas yn glir: sicrhau dyfodol gwylltach i Gymru drwy gydweithio i ddylanwadu ar bolisi, cyflawni adferiad byd natur, ysbrydoli cymunedau, a datblygu atebion sy'n seiliedig ar natur sy'n fuddiol i bobl a bywyd gwyllt. Rydym yn hyrwyddo adferiad bywyd gwyllt nid yn unig am ei werth cynhenid, ond hefyd am ei rôl hanfodol mewn lles, gwydnwch hinsawdd, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol.

Drwy uno arbenigedd lleol, cyfranogiad cymunedol ac arweinyddiaeth genedlaethol, mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn sicrhau bod gan fyd natur lais pwerus a chydlynol - heddiw ac am genedlaethau i ddod.  

 

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru www.northwaleswildlifetrust.org.uk   Ein gweledigaeth ni yw ‘byd naturiol ffyniannus, gyda bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol yn chwarae rhan werthfawr wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, a phobl wedi’u hysbrydoli a’u grymuso i weithredu dros fyd natur’. Ni yw’r elusen flaenllaw yng Ngogledd Cymru sy’n gyfan gwbl ymroddedig i warchod ein holl gynefinoedd a’n rhywogaethau, gyda mwy na 10,000 o bobl yn aelodau. Rydym yn ymgyrchu dros ddiogelu bywyd gwyllt ac yn buddsoddi yn y dyfodol drwy helpu pobl o bob oed i sicrhau gwerthfawrogiad a dealltwriaeth well o fywyd gwyllt. Rydym yn gofalu am 35 o warchodfeydd natur sy’n ymestyn dros 750 o hectarau. Am ragor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ffoniwch 01248 351541 neu e-bostiwch info@northwaleswildlifetrust.org.uk

Prosiect Afancod Cymru

Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn ymchwilio i ddichonoldeb dod ag afancod gwyllt yn ôl i Gymru ers 2005. Mae'r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran pob un o'r pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru fel rhan o'n strategaeth Tirweddau Byw ac rydym nawr yn gobeithio ymgymryd ag ailgyflwyno dan reolaeth i Gymru https://www.welshbeaverproject.org/.

Beaver Trust

Mae’r Beaver Trust yn elusen adfer natur sy'n gweithio i adfer afancod er mwyn adfywio tirweddau. Fel arbenigwyr afancod mwyaf blaenllaw Prydain, mae’r Beaver Trust yn darparu pob agwedd ar ailgyflwyno afancod yn ymarferol, o asesiadau dichonoldeb a thrwyddedu i iechyd, lles a rheolaeth hirdymor yr anifeiliaid. Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae’r Beaver Trust yn cefnogi cymunedau i fyw ochr yn ochr ag afancod drwy gyngor, lliniaru ac addysg, ac yn eiriol dros ddeddfwriaeth wrth arwain sgyrsiau cenedlaethol ar rôl afancod wrth adfer ecosystemau a meithrin gwydnwch hinsawdd. Am ragor o wybodaeth, ewch i beavertrust.org.

Cyswllt Amgylchedd Cymru

Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn rhwydwaith o sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol sy'n cydweithio ar weledigaeth o amgylchedd ffyniannus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae ein rhestr lawn o aelodau presennol ar gael ar ein gwefan: https://waleslink.org/our-members/.

Datganiad Ysgrifenedig: Gorchymyn Afancod (Cymru) 2026 (3 Chwefror 2026) | LLYW.CYMRU 

Prifysgol Caerwysg - Canfyddiadau o Afancod Ewrasiaidd Sy’n Byw yn Wyllt yng Nghymru: Canlyniadau Arolwg Cyhoeddus Ar-lein UofE_2023_Report_Survey of perceptions of Eurasian beavers in Wales.pdf Auster, R.E., Frith, K., Barr, S.W. a Brazier, R.E. (2023). Canfyddiadau o Afancod Ewrasiaidd Sy’n Byw yn Wyllt yng Nghymru: Canlyniadau Arolwg Cyhoeddus Ar-lein. Adroddiad i'w gyflwyno i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Prifysgol Caerwysg