Dyma'r tymor syllu ar y sêr gorau un ledled y DU, pan fydd yr haul yn codi ar ddiwrnod byrraf y flwyddyn a'r nosweithiau ar eu tywyllaf.
Mae gennym ni hefyd un o olygfeydd gorau Mam Natur i edrych ymlaen ati - cawod feteorau’r Geminidau.
Milky Way © Ed Marshall
Dyma'r tymor syllu ar y sêr gorau un ledled y DU, pan fydd yr haul yn codi ar ddiwrnod byrraf y flwyddyn a'r nosweithiau ar eu tywyllaf.
Mae gennym ni hefyd un o olygfeydd gorau Mam Natur i edrych ymlaen ati - cawod feteorau’r Geminidau.
Geminid at the Sycamore Gap © Wil Cheung
Mae'r digwyddiad anhygoel yma o sêr gwib yn cael ei achosi gan falurion yr asteroid Phaethon yn llosgi yn atmosffer y ddaear. Mae cawodydd eraill yn cael eu sbarduno gan falurion comedau, ond y gawod yma yw brenhines ddiamheuol pob un ohonyn nhw! Os ydych chi'n byw o dan awyr dywyll, mae gwledd yn eich aros chi, ond mae posib gweld y rhai disgleiriach o ardaloedd trefol.
Mae'r gawod yn cyrraedd uchafbwynt dros nos ar 13 a 14 Rhagfyr, ond mae posib gweld meteorau yn ystod y dyddiau cyn ac ar ôl hyn.
I'w gweld nhw, defnyddiwch eich llygad noeth, lapiwch yn gynnes, ac edrychwch yn uchel yn y de ddwyrain. Gadewch i'ch llygaid ddod i arfer â'r tywyllwch a byddwch yn amyneddgar. Mae gwin cynnes yn ychwanegiad dewisol.
Yn dibynnu ar faint o lygredd golau sydd gennych chi, mae posib gweld y Llwybr Llaethog yn uchel yn yr awyr yn gynnar gyda'r nos - gwych ar gyfer gwylio. Y band cul yma o olau yw ymyl yr olygfa o’n galaeth ni ein hunain, ond mae angen amodau eithaf tywyll i'w weld.
I roi syniad i chi o'r hyn rydw i'n ei olygu, yr amcangyfrif yw na all 80% o Brydeinwyr ei weld o ble maen nhw'n byw.
Ymhlith y rhain roedd cwpl a ddaeth i sesiwn syllu ar y sêr yng Nghymoedd Swydd Efrog ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae'n lleoliad perffaith, ond ar y noson yma roedd haen ystyfnig o gwmwl wedi parcio uwch ein pen. Wrth i mi ymddiheuro’n llaes am hyn, fe wahanodd yr awyr uwchben fel y Môr Coch. Llifodd yr afon o olau yn syth drwodd, gan achosi i bawb oedd yn bresennol ebychu fel côr. Mae'n ymateb digymell sy'n dal i wneud i mi wenu.
Er bod llygredd golau’n felltith i syllu ar y sêr, mae'n fygythiad mwy difrifol i fywyd gwyllt. Yn ôl y prosiect Globe at Night*, mae awyr y blaned yn y nos yn goleuo fwyfwy bron i 10% y flwyddyn. Os bydd hynny'n parhau, amcangyfrifir y bydd plentyn sy’n cael ei eni heddiw o dan 250 o sêr ond yn gweld 100 pan fydd yn troi’n 18 oed. I greaduriaid nosol fel gwyfynod - peillwyr allweddol - mae hynny'n arwydd o fygythiad o ddirywiad pellach. Fe allwn ni wneud ein rhan drwy fod yn ofalus gyda'n defnydd o oleuadau allanol yn y nos. Mae goleuadau lliw cynnes sydd wedi'u cysgodi'n dda yn rhan o'r ateb i gyd.
Y newyddion da ydi y gallwch chi weld y lleuad a phlanedau llachar fel Iau a Sadwrn cystal o'r ddinas ag y gallwch chi o gefn gwlad. Ond os ydych chi eisiau gweld llawer o sêr, mae gwylio o lecyn tywyllach yn cael ei argymell yn bendant. I helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas, defnyddiwch ap planetarium ar eich ffôn. Mae hwn yn symud gyda chi ac yn dangos i chi beth rydych chi'n edrych arno. Mae apiau am ddim ar gael, fel Google Sky Map a Stellarium Mobile, ac maen nhw'n rhagorol. Dechreuwch drwy adnabod y sêr disgleiriaf.
Cyn i chi brynu telesgop, defnyddiwch sbienddrych i ddechrau - meintiau 7 x 50 neu 10 x 50 yw'r gorau ar gyfer syllu ar y sêr. Byddant yn datgelu craterau ar y lleuad a chlystyrau o sêr y gaeaf fel y Pleiades.
Addaswch i'r tywyllwch drwy osgoi golau gwyn. Mae'n cymryd ugain munud i'ch golwg nos chi ddechrau gweithredu. Mae fflachlamp pen coch yn ddefnyddiol gan nad yw’n cael effaith mor negyddol ar ein llygaid ni.
Os oes gennych chi ffôn clyfar modern, fe allech chi ddechrau gyda hwn. Mae gan rai swyddogaethau astroffotograffiaeth mewnol hyd yn oed. Mae Goleuadau'r Gogledd a'r Llwybr Llaethog yn dargedau posibl os ydych chi'n defnyddio tripod. Os ydych chi eisiau mynd ymhellach a thynnu lluniau drwy delesgop, mae'n syniad da picio draw i’ch cymdeithas seryddol leol.
Felly cofleidiwch y tymor, gwisgwch ddigon o haenau o ddillad a dewch draw i'r ochr dywyll.
Mae Richard Darn wedi bod yn syllu ar y sêr erioed. Mae hefyd yn helpu rhai o dirweddau tywyllaf y DU i gadw eu hawyr serog.
* Science, 19 January 2023
www.science.org/doi/10.1126/science.abq7781
Christopher C. M. Kyba, Yiğit Öner Altıntaş Constance E. Walker and Mark Newhouse