Mae 30 Diwrnod Gwyllt yma! Pa ffordd well o gychwyn eich mis gwyllt na thrwy helpu bywyd gwyllt lle rydych chi'n byw?
Rydyn ni wedi rhannu rhai syniadau isod y gallech chi roi cynnig arnyn nhw, wedi'u cynllunio ar gyfer faint bynnag o amser sydd gennych chi i'w sbario. Awgrymiadau yn unig yw'r rhain, felly os oes gennych chi eich ffordd eich hun o helpu byd natur yr wythnos yma, rhowch gynnig arni! Byddem wrth ein bodd yn clywed beth rydych chi'n ei wneud, felly anfonwch e-bost atom ni neu tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
Llai na 10 munud?
Dim ond ychydig funudau i'w sbario? Dyma ychydig o weithgareddau cyflym a hawdd i chi ddechrau arni.
Llai nag awr?
Ychydig mwy o amser ar gael? Rhowch gynnig ar un o'r gweithgareddau yma – maen nhw i gyd yn ffyrdd gwych o helpu’r bywyd gwyllt sy'n byw ar garreg eich drws.
Awr neu fwy?
Mae'r awgrymiadau yma’n cymryd ychydig mwy o amser i'w cynllunio a'u cwblhau, felly mae'n well neilltuo hanner diwrnod i chi'ch hun.
Digwyddiadau yn eich ardal chi
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ledled y DU ac ar Ynysoedd Alderney a Manaw. O deithiau cerdded natur tywys i weithdai creadigol, archwiliwch y digwyddiadau yn eich ardal chi.

Dathlu
Rhannwch a dathlwch eich cyflawniadau #30DiwrnodGwyllt bob wythnos drwy lawrlwytho eich bathodyn, sy'n berffaith i'w ddefnyddio ar gyfryngau cymdeithasol.

Diolch yn fawr iawn i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, sydd wedi helpu i wneud #30DiwrnodGwyllt yn bosibl!