Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn elusen sy'n gweithio i amddiffyn bywyd gwyllt ar dir ac ar y môr, a dod â phobl yn agosach at natur. Credwn fod byd naturiol iach sy'n llawn bywyd gwyllt yn werthfawr ynddo'i hun ac mae hefyd yn sylfaen i'n lles a'n ffyniant; rydym yn dibynnu arno ac mae'n dibynnu arnom ni. Rydym yn gweithio i gysylltu'r 5 Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru.
Hanes yr Ymddiriedolaethau Natur a sut y dechreuodd y cyfan. Ym mis Mai 1912 cynhaliodd y banciwr a naturiaethwr arbenigol Charles Rothschild gyfarfod yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain i drafod ei syniad am sefydliad newydd i achub lleoedd gorau Prydain ar gyfer natur.
Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn cynrychioli'r pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru gan weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth i amddiffyn bywyd gwyllt. Mae'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yng Nghymru gyda'i gilydd yn siarad ar ran mwy na 24,000 o aelodau ac yn rheoli dros 200 o warchodfeydd natur, gan gwmpasu mwy nag 8,000 hectar o gynefin bywyd gwyllt cysefin, o arfordir garw i hafanau bywyd gwyllt trefol.
Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd a natur, ac mae cysylltiad anorfod rhwng y ddau. Mae newid yn yr hinsawdd yn sbarduno dirywiad natur, ac mae colli bywyd gwyllt a llefydd gwyllt yn ein gadael mewn sefyllfa wael i leihau allyriadau carbon ac addasu i newid.
Gweithiwn yn galed iawn i roi llais i natur. Rydym yn wynebu argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, rhaid i ni weithredu nawr i sicrhau dyfodol i fywyd gwyllt Cymru a thu hwnt. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn ogystal â phartneriaid eraill i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio tuag at adferiad natur yng Nghymru.
O brosiectau pysgodfeydd cynaliadwy lleol i ymgyrchu dros ardaloedd gwarchodedig ar y môr - darganfyddwch am waith yr Ymddiriedolaethau Natur i ddod â'n moroedd yn ôl yn fyw.