Dechreuwch bleidleisio! Mae'r pleidleisio’n agor ar gyfer arian papur bywyd gwyllt newydd sy'n tynnu sylw at ymdrechion cadwraeth ledled y DU

Dechreuwch bleidleisio! Mae'r pleidleisio’n agor ar gyfer arian papur bywyd gwyllt newydd sy'n tynnu sylw at ymdrechion cadwraeth ledled y DU

Fe allwch chi bleidleisio dros wynebau bywyd gwyllt newydd ar gyfer ein harian papur. Beth am i ni gael golwg fanylach ar restr fer Banc Lloegr o 18 o rywogaethau…

Mae'r bleidlais sy’n para am fis a lansiwyd ar ddydd Mercher 3ydd Mehefin yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a welodd gefnogaeth aruthrol i arian papur ar thema byd natur. Mae panel o arbenigwyr bywyd gwyllt, gan gynnwys Katy Bell o'r Ymddiriedolaethau Natur, wedi llunio'r rhestr fer ers hynny, cyn y bleidlais gyhoeddus.

Bydd y cyhoedd yn gallu dewis rhwng y canlynol:

Dechreuwch bleidleisio 

#mammals

Mamaliaid 

  • Llwynog 
  • Draenog   
  • Bele 
  • Morlo llwyd 
  • Ysgyfarnog 
  • Dolffin trwyn potel 
#birds

Adar 

  • Cnocell fraith fwyaf 
  • Pâl 
  • Tylluan wen 
  • Eryr y môr 
  • Glas y dorlan 
  • Gylfinir 
#other

Amffibiaid, pryfed a physgod 

  • Broga 
  • Glöyn byw britheg y gors
  • Eog
  • Heulforgi 
  • Gwas y neidr yr ymerawdwr 
  • Cacynen cynffon lwydfelyn  

Dywed Katy Bell, aelod o banel bywyd gwyllt Banc Lloegr ac uwch swyddog cadwraeth yn Ulster Wildlife:

“O fyd natur y môr, afonydd a choetiroedd i fywyd gwyllt cyfarwydd tir fferm a threfi, rydyn ni wrth ein bodd bod y rhestr fer yn cynnwys nifer o rywogaethau hoff o bob cwr o’r DU. Doedd penderfynu pa rywogaethau i’w cynnwys ddim yn dasg hawdd, ond mae’n hynod galonogol gwybod bod y cyhoedd yn dymuno gweld byd natur yn ymddangos ar ein harian papur am flynyddoedd i ddod.

“Fodd bynnag, rhaid i ni gofio bod llawer o’r rhywogaethau yma’n wynebu pwysau enfawr oherwydd newid hinsawdd, colli cynefinoedd a newidiadau yn y dull o reoli tir. Fel cenedl o bobl sy’n hoff o fyd natur, mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae wrth wyrdroi dirywiad bywyd gwyllt - boed hynny drwy greu gerddi a llecynnau gwyrdd sy’n gyfeillgar i fyd natur, helpu i adfer cynefinoedd ar y tir ac yn y môr, neu eiriol dros warchod byd natur ledled y DU. Gyda’n gilydd, beth am i ni wneud hon y foment rydyn ni i gyd yn buddsoddi ym myd natur.”

Dechreuwch bleidleisio 

Ochr yn ochr â lansiad y bleidlais gyhoeddus, mae Banc Lloegr wedi amlinellu sut mae byd natur yn hanfodol i'n tirweddau ni, ein hecosystemau a'n bywydau bob dydd, ac mae wedi ysbrydoli gweithiau celf, cerddoriaeth a llenyddiaeth eiconig ers tro byd. Mae tystiolaeth yn parhau i ddangos hefyd bod byd natur yn hanfodol i'n heconomi ni, ein lles a'r aer rydyn ni'n ei anadlu, y dŵr rydyn ni'n ei yfed, a'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta.

Fel mudiad mwyaf y DU dros fyd natur, mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn parhau i adfer cynefinoedd, eiriol dros well gwarchodaeth i fyd natur, ac ailgyflwyno llawer o'r rhywogaethau sydd wedi’u henwi ar y rhestr fer hyd yn oed. Ochr yn ochr â chymunedau lleol, rydyn ni'n adfer natur i adfer y genedl. Mae'r ymdrechion hyn yn cynnwys y canlynol: 

Dod â rhywogaethau yn ôl

  • Mae eryr y môr wedi cael ei ailgyflwyno'n llwyddiannus yn yr Alban ac ar Ynys Wyth, ac mae gobaith am ailgyflwyno yn y dyfodol yn ne ddwyrain Cymru, Aber Afon Hafren a Cumbria. Mae Ymddiriedolaethau Natur Gwent a Cumbria yn gweithio i ddod â'r rhywogaeth allweddol hon yn ei hôl fel ei bod yn gallu ffynnu ledled y DU unwaith eto.
  • Mae Ymddiriedolaethau Natur Dyfnaint a Swydd Gaerloyw wedi chwarae rhan flaenllaw mewn ailgyflwyno’r bele i dde orllewin Lloegr, gan ddychwelyd y mamal bach yma i'r ardal ar ôl mwy na 100 mlynedd o absenoldeb drwy ryddhau i Fforest Dean, Dartmoor ac Exmoor. Mewn mannau eraill, mae Ulster Wildlife yn parhau i fonitro ymlediad beleod er budd ecosystemau coetiroedd, gan gynnwys hybu niferoedd gwiwerod coch.
  • Mae Ymddiriedolaeth Natur Dyfnaint hefyd yn tyfu miloedd o blanhigion tamaid y cythraul er budd un o'n glöynnod byw sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf - britheg y gors. Ar un adeg, roedd y rhywogaeth hardd yma’n gyffredin, ond mae wedi dirywio'n ddifrifol ac mae wedi diflannu bellach ar draws rhannau helaeth o Brydain, gan leihau i ychydig o boblogaethau bach yn unig.

Troi’r llanw ar golli byd natur yn y môr

Mae ein bywyd morol yn wynebu llu o fygythiadau allan ar y môr, gan gynnwys llygredd o blastigau a chemegau, anafiadau oherwydd rhwydi pysgota, a tharfu oherwydd gweithgareddau hamdden, llongau a datblygiadau. Mae newid hinsawdd yn cynhesu ein dyfroedd ni hefyd, gan effeithio ar argaeledd bwyd. Er gwaethaf y bygythiadau hyn:

  • Cafodd arolwg blynyddol Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru o’r boblogaeth o balod sy’n byw ar Ynys Sgomer flwyddyn arall a dorrodd record yn 2026, gyda 52,019 o balod wedi’u cofnodi. Mae’n debyg bod eu llwyddiant yn gysylltiedig ag absenoldeb llygod mawr ac ysglyfaethwyr eraill ar yr ynys, ynghyd â mwy o fwyd yn yr ardal ehangach.
  • Yn y cyfamser, mae dronau’n cael eu defnyddio i fonitro’r poblogaethau o forloi llwyd sy’n byw yn Ne Walney ger Barrow. Yma, llwyddodd Ymddiriedolaeth Natur Cumbria i gyfrif 563 o forloi, sy’n record, ac maen nhw’n parhau i addysgu’r cyhoedd am sut i’w gwylio’n ddiogel o bell.
  • Mae ymdrechion i ddeall symudiadau rhywogaethau morol fel dolffiniaid trwyn potel a heulforgwn yn well yn cynnwys Ymddiriedolaethau Natur yn cofnodi eu gweld ac yn cynorthwyo hefyd gyda rhwydweithiau ymateb lleol i’r mamaliaid yma os ydyn nhw’n dod i’r lan. Mae sefydlu a rheoli Parthau Cadwraeth Morol ac Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn llym yn hanfodol hefyd, gan leihau unrhyw darfu gan bobl a sgil-ddalfeydd damweiniol mewn offer pysgota o fewn ardaloedd magu a bwydo allweddol.

Creu afonydd a glannau afonydd gwylltach

Ledled y DU, mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn dangos sut gall byd natur helpu i adfer afonydd i iechyd llawn, gan fynd i'r afael â llygredd, erydiad ac effeithiau newid hinsawdd ar y cyd. O fwydo i sychder, nid yn unig y mae'r datrysiadau yma sy'n seiliedig ar natur yn amddiffyn cartrefi a bywoliaeth pobl, ond hefyd maent yn darparu cynefinoedd i fywyd gwyllt.

  • Mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Hamp ac Ynys Wyth yn adfer Afon Itchen, un o ddim ond chwe nant sialc yn Lloegr sy'n gartref o hyd i eogiaid gwyllt. Mae'r gwaith yn y lleoliad yma’n cynnwys adfer gorlifdiroedd naturiol a chael gwared ar rwystrau i fudo eogiaid, gan weithio hefyd gyda chymunedau lleol i wella ansawdd dŵr ac adfer glannau afonydd.
  • Mae ymdrechion i wella ansawdd dŵr a dod â glannau afonydd gwylltach yn fyw - fel Prosiect Adfer Tair Afon Ymddiriedolaeth Natur Swydd Nottingham - o fudd i las y dorlan a gweision y neidr hefyd, dwy rywogaeth sy’n dibynnu ar ddŵr clir, araf i fwydo a magu.

Mabwysiadu ffermio sy'n gyfeillgar i fyd natur

Gyda 70% o dir y DU yn cael ei ffermio, mae sicrhau adferiad priodol i fyd natur ar dir fferm yn hanfodol. Dyma pam mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn parhau i eiriol dros gefnogaeth gan lywodraethau a gweithredwyr cadwyni cyflenwi fel bod ffermwyr yn gallu ffurfio busnesau gwydn sy'n gyfeillgar i fyd natur.

  • Mae newidiadau mewn amaethyddiaeth wedi arwain at ostyngiad dramatig yn niferoedd yr ysgyfarnog, ond mae dulliau o weithredu sy'n gyfeillgar i natur yn ei helpu i adfer. Drwy Bartneriaeth Fferm Jordans, mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio gyda ffermwyr ceirch ledled Lloegr i ddarparu ar y cyd ardal sydd bron yr un maint â Rhydychen ar gyfer natur. Mae rhywogaethau fel tylluanod gwynion, ysgyfarnogod a phryfed peillio hanfodol fel gwenyn i gyd yn elwa o ganlyniad.
  • Mae llawer o Ymddiriedolaethau Natur yn ymwneud hefyd â monitro a gosod bocsys tylluanod gwynion yn eu lle, gan weithio'n benodol gyda ffermwyr lleol. Un enghraifft benodol yw Ymddiriedolaeth Natur Essex, sydd, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, wedi gosod mwy na 300 o focsys nythu yn eu lle ac wedi modrwyo mwy na 470 o dylluanod gwynion unigol.
  • Yn y cyfamser, mae The Dead Wood Society wedi cynorthwyo Ymddiriedolaethau Natur Swydd Gaerloyw, Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon i adfer cynefinoedd pren marw ledled y rhanbarth, gan gynghori ffermwyr a pherchnogion tir ar reoli perllannau, porfeydd coed a phren sy'n pydru. Mae'r rhain yn gynefinoedd nythu hanfodol ar gyfer y gnocell fraith fwyaf, sydd hefyd yn rhoi hwb i'r pryfed a'r larfa maen nhw'n bwydo arnyn nhw.
  • Mae newidiadau rheoli tir wedi cael effaith hefyd ar y gylfinir Ewrasiaidd, aderyn sy'n nythu ar y ddaear ac sy’n byw ar rostiroedd a chorsydd mawn yn yr ucheldir. Mae posib clywed cri’r gylfinir ar Stad Rothbury, lle mae’r Ymddiriedolaethau Natur ac Ymddiriedolaeth Natur Northumberland yn gobeithio prynu'r darn helaeth yma o dir a chwblhau gwaith cadwraeth er budd y gylfinirod a llawer o rywogaethau eraill, yn ogystal â phobl leol.

Cysylltu â byd natur ar garreg ein drws

Ers degawdau, mae'r Ymddiriedolaethau Natur wedi bod yn ymgysylltu ac yn cysylltu pobl â natur. Nid yn unig er budd y rhywogaethau, ond o ran iechyd a lles pobl hefyd. Pa ofod awyr agored bynnag sydd gennych chi – boed yn falconi, gardd, rhandir neu lecyn gwyrdd cymunedol, mae camau y gall pawb eu cymryd i helpu bywyd gwyllt.

  • I frogaod, mae pyllau’n hanfodol ar gyfer bwydo a magu, ac mae cysylltu'r cynefinoedd hyn – boed yn eich gardd, llecyn gwyrdd lleol neu hyd yn oed ar dir fferm – yn hanfodol. Dyma pam mae Ymddiriedolaeth Natur Norfolk yn gweithio'n galed i adfer 'pyllau ysbryd' coll yn y Brecks. Yn dyddio'n ôl i Oes yr Iâ, mae'r pyllau yma sydd wedi'u hadfywio bellach yn helpu planhigion a bywyd gwyllt prin i adfer.
  • Mewn mannau eraill, mae llwynogod yn fywyd gwyllt cyffredin i lawer mewn dinasoedd a threfi. Mae Ymddiriedolaethau Natur ledled y DU yn gwarchod cynefinoedd hanfodol fel coetiroedd, prysgwydd a llecynnau gwyrdd trefol, gan ddarparu safleoedd gorffwys diogel a digonedd o fwyd naturiol i lwynogod.
  • Mae Ulster Wildlife yn ymgymryd â'r prosiect tracio GPS cyntaf erioed ar gyfer draenogod yng Ngogledd Iwerddon, gan ddatgelu'r siwrneiau cudd a pheryglus yn aml mae'r ymwelwyr cyfarwydd hyn â gerddi yn eu gwneud bob nos. Bydd y prosiect tracio’n helpu fel sail i weithredu cadwraeth, cynllunio trefol sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt, ac i ddangos pwysigrwydd priffyrdd draenogod wrth gysylltu gerddi mewn trefi a dinasoedd.
  • Mae adfer dolydd llawn blodau yng ngwarchodfeydd yr Ymddiriedolaethau Natur, ynghyd ag ymdrechion garddio sy'n gyfeillgar i fyd natur, o fudd i ystod eang o bryfed peillio fel y gacynen cynffon lwydfelyn sydd wedi dioddef dirywiad mawr fel arall oherwydd colli cynefinoedd, newidiadau i ddefnydd tir a defnydd o blaladdwyr.