Canllaw newydd i arddwyr i gael gwared â mawn o'r ardd i helpu bywyd gwyllt

Canllaw newydd i arddwyr i gael gwared â mawn o'r ardd i helpu bywyd gwyllt

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi datgelu llawlyfr newydd i helpu pobl i fynd yn ddi-fawn yn eu gerddi ac i gydnabod pwysigrwydd mawndiroedd i natur a hinsawdd.

Fis Awst diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd gwerthu compost mawn i arddwyr yn cael ei wahardd erbyn diwedd 2024. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn, felly bydd garddwyr yn gweld manwerthwyr yn rhoi’r gorau i werthu compost mawn yn raddol wrth i ni baratoi i fynd ddi-fawn. Fodd bynnag, mae hyn yn dal i fod 18 mis i ffwrdd, felly mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn annog pobl i newid i arddio heb fawn nawr.

Mae’r llawlyfr newydd, Garddio'n Fwy Gwyrdd: Perffeithio Heb Fawn yn darparu awgrymiadau a thriciau ar gyfer cael y gorau o gompost, canllaw ar gyfer gwneud compost gartref, a gwybodaeth am brynu cynnyrch di-fawn.

Mawndiroedd yw storfa garbon ddaearol fwyaf y DU, yn ogystal â darparu cynefin hanfodol i fywyd gwyllt. Datgelodd ymchwil gan yr Ymddiriedolaethau Natur fod echdynnu i’w ddefnyddio mewn garddwriaeth wedi achosi i hyd at 31 miliwn tunnell o garbon deuocsid gael ei ryddhau ers 1990.

Sunsetting over peatland

Mark Hamblin/2020 VISION

Meddai Sara Booth-Card, Ymgyrchydd Mawndiroedd ar gyfer yr Ymddiriedolaethau Natur:

“Mae prynu neu wneud compost cynaliadwy heb fawn yn ffordd hawdd i arddwyr helpu natur a’r hinsawdd. Mae’r canllaw am ddim hwn yn rhoi llawer o wybodaeth ddefnyddiol i helpu pobl i bontio i arddio heb fawn eleni."

“Mae gan fawndiroedd rai o’r planhigion a’r anifeiliaid mwyaf hynod yn y DU. Maent yn cynnwys planhigion sy’n bwyta pryfed fel Gwlithlys, cywion Cwtiad Aur cuddliw sy’n edrych fel pom-poms bach a'r mwsogl Migwyn sy’n gallu dal 20 gwaith ei bwysau ei hun mewn dŵr. Mae mawndiroedd y DU yn storio mwy o garbon na’r holl goedwigoedd yn y DU, Ffrainc a’r Almaen gyda’i gilydd. Mae’r argyfyngau natur a hinsawdd yn golygu bod yn rhaid i ni wneud rhai pethau’n wahanol, gan gynnwys garddio heb fawn.”

Bydd Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i:

  • Gwahardd masnach fasnachol o fawn ar unwaith
  • Gwahardd pob defnydd garddwriaethol o fawn cyn gynted ag y bydd amserlenni seneddol y DU yn caniatáu, neu erbyn 2024 fan bellaf
  • Adfer yr holl gorsydd sydd wedi’u difrodi gan symud mawn erbyn 2030

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn arwain prosiectau adfer mawndiroedd ledled y DU ac maent wedi adfer dros 50,000 hectar o fawndir. Gan weithio gyda phartneriaid a thirfeddianwyr, mae cynlluniau tymor byr i atgyweirio 20,000 o hectarau pellach.

Lawrlwythwch y Canllaw