Gwarchod Camlas Trefaldwyn

Montgomery Canal

Credit - Tamasine_Stretton_twit

Gwarchod Camlas Trefaldwyn

Helpwch ni i amddiffyn natur ar hyd y ddyfrffordd hon sy'n llawn bywyd gwyllt

Cwblhewch ein e-weithredu nawr!

Mae'r hafan bywyd gwyllt hon dan fygythiad

Ecosystem sy’n ffynnu, yn llawn planhigion a rhywogaethau prin; lloches gydol y flwyddyn i ddyfrgwn gael cynhaliaeth a chwarae; ac, yn yr haf, yn briffordd brysur i bryfed, yn llawn gwenyn, ieir bach yr haf, gweision y neidr a mursennod, Camlas Trefaldwyn yw un o’r camlesi gorau ar gyfer byd natur yn y DU.

Ond mae’r gamlas hon dan fygythiad. Mae cynlluniau ar y gweill i agor y rhan gyfan sy’n rhedeg drwy Gymru - 24 milltir o ddyfrffordd llawn bywyd gwyllt, sy’n rhedeg o Lanymynech hyd at gyrion y Drenewydd, drwy’r Trallwng - ar gyfer cychod modur, fel rhan o brosiect gwerth miliynau a ariannwyd gan gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Byddai caniatáu cychod modur ar y gamlas hon yn drychinebus i lawer o'r bywyd gwyllt sy’n dibynnu arni.

The Montgomery Canal runs through Montgomeryshire countryside, as well as towns and villages such as Welshpool, Berriew and Abermule

Credit - Flying Film Lab ©

Sut alla i helpu?

Byddai caniatáu’r math o ddifrod y byddai cychod modur yn ei achosi i ACA, a warchodir gan y gyfraith, yn gosod cynsail pryderus ar gyfer gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Ond gallwch leisio’ch barn am y cynefin pwysig hwn drwy ddweud wrth y rhai sy'n gwneud penderfyniadau pam fod bywyd gwyllt Camlas Trefaldwyn yn bwysig i chi a chefnogi ein galwadau am gynlluniau adfer ac atal sensitif a phriodol i ganiatáu cychod modur ar Gamlas Trefaldwyn. Gallwch sicrhau bod eich barn yn cael ei glywed drwy gwblhau ein e-weithredu:

Gweithredwch dros Gamlas Trefaldwyn nawr

Pam fod Camlas Trefaldwyn mor bwysig i fywyd gwyllt?

Tra bod y gamlas yn cychwyn yn Swydd Amwythig ger Ellesmere, mae'r rhan fwyaf ohoni yng Nghymru. Mae’r rhan Gymreig hon yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yn ogystal â bod yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) - dynodiad a roddir i’r mannau pwysicaf yn y DU ar gyfer bywyd gwyllt sydd hefyd yn arwyddocaol yn rhyngwladol.

Mae ei statws ACA yn bennaf ar gyfer planhigion dyfrol - mae’r ddyfrffordd yn cynnal y boblogaeth fwyaf ac ehangaf o lyriad-y-dŵr arnofiol ym Mhrydain sy’n brin yn rhyngwladol, yn ogystal â chynefin ar gyfer planhigion prin eraill fel Dyfrllys Cywasg. Mae’r gamlas hefyd yn ardal fagu i tua 10 rhywogaeth o weision y neidr a mursennod - gan gynnwys rhywogaethau prin fel Gweision Neidr Tindrom a’r Fursen Goeswen. Ar ben hynny, mae’r gamlas yn fan bwydo pwysig i ddyfrgwn, mae glas y dorlan i’w gweld ar hyd y gamlas ac mae ystlumod fel Ystlum y Dŵr ac Ystlumod Pipistrelle yn clwydo yn ei phontydd.

Internationally rare aquatic plant, Floating Water-plantain

Credit - © Richard Lansdown/Wildscreen Exchange

Mae cyfuniad o ffactorau yn gwneud Camlas Trefaldwyn yn lle pwysig ar gyfer cymaint o amrywiaeth o fywyd gwyllt. Fel y rhan fwyaf o gamlesi gwledig, mae’n goridor bywyd gwyllt hanfodol, sy’n galluogi adar ac anifeiliaid i symud o gwmpas yn ddiogel. Mae’r amrywiaeth o wahanol gynefinoedd hefyd yn bwysig – dŵr sy’n symud yn araf, lleiniau ymyl, gwrychoedd, gwelyau cyrs, pontydd, ac agennau mewn lociau a phrysgdir. Ond mae Camlas Trefaldwyn hefyd yn arbennig iawn oherwydd bod ei dŵr o ansawdd glân a chlir – rhywbeth sy’n ei gwneud yn ddeniadol iawn i amrywiaeth eang o greaduriaid, ond yn enwedig rhywogaethau dŵr croyw.

Gallai rhywfaint o hyn fod oherwydd bod y rhan fwyaf o’r rhan Gymreig wedi bod yn anhygyrch ers i’r gamlas gau’n swyddogol i gychod yn 1944 – ac eithrio darnau bach, ynysig yn Llanymynech a’r Trallwng. Ond efallai ei fod hefyd yn gysylltiedig â'r ffaith nad oedd y gamlas hon wedi profi’r un lefelau uchel o draffig cychod yn hanesyddol a dyfrffyrdd eraill, ac fe honnir na wnaeth cychod stêm a chychod disel erioed ei defnyddio.

Pam fod y gwaith adfer yn bwysig?

Mae angen rhywfaint o waith cynnal a chadw ar Gamlas Trefaldwyn ar gyfer ei bioamrywiaeth. Ar hyn o bryd, mae diffyg cyllid yn golygu ei bod yn anodd cynnal y dyfnder a’r lled delfrydol o ddŵr agored sydd ei angen ar gyfer llawer o’i phlanhigion gwerthfawr ac anifeiliaid dŵr croyw. Byddai rhan o’r gwaith adfer arfaethedig yn cynnwys carthu, sy’n angenrheidiol i adfer amodau dŵr agored y gamlas a chynnal llif y dŵr, yn ogystal â gwella ansawdd y dŵr, er mwyn diogelu dyfodol y Llyriaid Nofiadwy a rhywogaethau dyfrol eraill. Yn yr un modd, gall unrhyw welliannau sympathetig i’r llwybr tynnu ac unrhyw beth arall a fyddai’n gwella profiad ymwelwyr, ac sy’n denu pobl at y cyfoeth o fywyd gwyllt y mae’r gamlas yn ei gynnal, heb niweidio’r amgylchedd naturiol, fod yn beth da i’r gymuned leol.

A kingfisher plunges down towards the water, its bright turquoise and orange colours glowing in the sunlight

Kingfisher © Malcolm Brown

Pam fod cychod modur yn gymaint o broblem?

Tra bod llawer o’r rhan o’r gamlas sydd yn Lloegr - o Ellesmere yn Swydd Amwythig i Lanymynech - yn hygyrch mewn cwch ac wedi’i gysylltu â’r prif rwydwaith camlesi, mae’r rhan fwyaf o’r rhan Gymreig (ac eithrio darnau yn Llanymynech a’r Trallwng) yn parhau i fod yn anhygyrch ac yn ynysig o'r rhwydwaith cenedlaethol.

Rhan o'r cynnig ar gyfer adfer Camlas Trefaldwyn yn ei chyfanrwydd yw y byddai'n gwneud y ddyfrffordd yn hygyrch i bob math o gychod, gan gynnwys cychod modur. Mae'r rhain yn fygythiad i'r gamlas a'i bywyd gwyllt am sawl rheswm; mae llafnau gyrru cychod yn difrodi ac yn dinistrio planhigion ac anifeiliaid; maent yn cynyddu afloywder (pan fo'r dŵr yn gymylog â mwd, gan leihau'r lefelau golau sydd eu hangen ar gyfer anifeiliaid a phlanhigion); mae olion y cychod yn y dŵr yn aflonyddu planhigion dyfrol arnofiol; ac maent yn aml yn achosi llygredd gyda thanwydd a dŵr gwastraff. Mae hynny i gyd heb son am y sŵn a’i effaith ar adar a mamaliaid fel dyfrgwn a Llygod y Dŵr.

Gwelwyd bod hyn yn wir ar hyd y rhan o Gamlas Trefaldwyn yn Sir Amwythig, lle arweiniodd agor y gamlas i gychod modur at leihad yn nifer y planhigion dŵr ac infertebratau sy'n byw yn y dŵr. Dynodwyd rhan o'r gamlas o Aston Locks i Keeper's Bridge yn SoDdGA ym 1986. Cafodd ei hadfer a'i hailagor yn 2003 ac erbyn 2013 adroddodd Natural England fod y safle mewn cyflwr anffafriol oherwydd y mynediad cyhoeddus, yr aflonyddwch cysylltiedig, a llygredd.

Beth yw'r dewis arall?

Mae Camlas Trefaldwyn yn lle gwych lle gall pobl ddod yn agos at, a gwerthfawrogi, natur. Yn ogystal â cherdded a beicio, byddai gweithgareddau effaith isel megis canŵio, caiacio a padlfyrddio, ar raddfa fach, yn galluogi ymwelwyr i fwynhau’r gamlas o’r dŵr, heb ormod o aflonyddwch. Byddem hefyd yn cefnogi defnyddio cychod a dynnir gan geffylau, fel y defnyddir ar Gamlas Llangollen, gan nad oes gan y cychod hyn foduron na llafnau gwthio a'u bod yn symud yn llawer arafach ac felly nid ydynt yn creu unrhyw olion cwch yn y dŵr.

Its natural beauty and the flat, easy terrain of the towpath makes The Monty popular amongst walkers and cyclists; these activities are very low impact

Credit - Flying Film Lab ©

Cwestiynau Cyffredin

Dyma rai atebion i gwestiynau cyffredin am gynlluniau adfer arfaethedig y gamlas

C: Beth yw perthynas Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn â Chamlas Trefaldwyn?

A: Glandŵr Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru sy’n berchen ar ac yn rheoli Camlas Trefaldwyn. Fodd bynnag, mae gan Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn berthynas hir ac arbennig â'r gamlas. Mae'n rhedeg trwy'r sir gan gysylltu llawer o'n gwarchodfeydd natur; mae 9 o’n gwarchodfeydd o fewn coridor y gamlas (5km o boptu’r ddyfrffordd) ac mae 5 o’r rhain o fewn pellter cerdded neu wedi’u lleoli ychydig oddi ar lwybr tynnu’r gamlas. Rydym wedi gwneud gwaith cadwraeth sylweddol, megis arolygon bywyd gwyllt, a chasglu sbwriel ar ei hyd dros y blynyddoedd. Ar ben hynny, diolch i’w statws SoDdGA ac yn enwedig ei statws ACA, rydym yn angerddol am ei gwarchod – gan ei bod yn un o fannau pwysicaf Sir Drefaldwyn ar gyfer natur.

C: Oni adeiladwyd Camlas Trefaldwyn yn wreiddiol ar gyfer cychod modur?

A: Gellid maddau i chi am feddwl hyn, ond mewn gwirionedd mae'r gamlas yn rhagddyddio cychod modur. Dechreuodd y gwaith adeiladu yng nghanol y 1790au ac agorwyd y ddyfrffordd gyfan ym 1819. Ar yr adeg hon, byddai cychod cul pren yn cael eu tynnu gan geffylau yn cael eu defnyddio ar y ddyfrffordd i gludo calch a glo o amgylch y sir. Ni chyflwynwyd cychod modur yn y DU tan ddiwedd y 19eg ganrif gyda phŵer stêm, ac yna nwy a disel yn cael eu defnyddio o droad y ganrif. Roedd defnydd Camlas Trefaldwyn eisoes yn lleihau erbyn y cyfnod hwn, nid oedd cychod stêm na chychod disel yn teithio arni mwyach. Er gwaethaf tarddiad y gamlas fel modd o gludo deunyddiau amaethyddol a diwydiannol, mae wedi datblygu ers hynny i fod yn lle hynod o bwysig i fywyd gwyllt yn ystod cyfnod o argyfwng ym myd natur gyda phob lloches bywyd gwyllt sydd ar ôl yn hynod werthfawr.

C: Onid oes gwarchodfeydd natur oddi ar y gamlas wedi’u cynllunio a fydd yn gwrthbwyso unrhyw ddifrod a achosir gan gychod modur?

A: Crëwyd nifer o warchodfeydd oddi ar y brif gamlas yn y 1970au pan ddechreuodd gwaith adfer ar y gamlas i ddechrau. Fe gafodd hyn ei wneud i warchod enghreifftiau o'r cynefinoedd a'r rhywogaethau a geir yn y gamlas. Yn anffodus, mae'r gwarchodfeydd hyn wedi methu ag efelychu amodau Camlas Trefaldwyn sy'n galluogi rhywogaethau prin i ffynnu ac mae'r poblogaethau a drawsblannwyd wedi marw.