Mae Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Ddargedwir yn fygythiad mawr i natur ac i ddatganoli, er gwaethaf gwrthdroi’r terfyn amser ym mis Rhagfyr yn ddiweddar

Mae Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Ddargedwir yn fygythiad mawr i natur ac i ddatganoli, er gwaethaf gwrthdroi’r terfyn amser ym mis Rhagfyr yn ddiweddar

Mae Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Ddargedwir bellach yn ei gamau olaf yn San Steffan a disgwylir iddo ddod yn gyfraith yn fuan. Wedi’i gyflwyno i’r Senedd fis Medi diwethaf gan yr Ysgrifennydd Busnes Jacob Rees-Mogg ar y pryd, mae’r Bil yn hwyluso diwygio neu ddirymu cyfreithiau sydd â’u gwreiddiau mewn polisïau o’r Undeb Ewropeaidd. Mae cyfanswm Cyfraith yr UE a Ddargedwir y mae hyn yn berthnasol iddo bellach bron yn 5,000.

Terfyn amser wedi ei ddiddymu

Mewn gwrthdroi penderfyniadau’n sylweddol fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n cael gwared â'r terfyn amser y Bil, a fyddai wedi dileu'n awtomatig holl Gyfraith yr UE a Ddargedwir ar ddiwedd y flwyddyn hon. Roedd hyn yn bygwth dileu cannoedd o gyfreithiau hanfodol sy’n bodoli i amddiffyn natur a phobl yn y DU, heb unrhyw ofyniad i’r rhain gael eu disodli.

Ni fyddwn yn llongyfarch Llywodraeth y DU am ei phenderfyniad i roi’r gorau i wneud rhywbeth na ddylai byth fod wedi meddwl amdano yn y lle cyntaf.
Craig Bennett
Prif weithredwr yr Ymddiriedolaethau Natur

Er gwaethaf y penderfyniad hwn, mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn parhau i bryderu am nifer o ddarpariaethau yn y Bil; mae dyfodol cannoedd o gyfreithiau sy'n ymwneud â rhywogaethau, cynefinoedd, ansawdd aer a dŵr mewn perygl ar hyn o bryd.

Ymhellach, mae gan y pwerau ychwanegol y mae’r Bil hwn yn eu rhoi i weinidogion Llywodraeth y DU adolygu, diwygio a dirymu cyfreithiau’r UE oblygiadau difrifol i ymreolaeth llywodraethau datganoledig. Heb unrhyw graffu Seneddol na gofyniad i ymgynghori ag arbenigwyr, bydd pedair gwlad y DU yn destun proses sylfaenol annemocrataidd o wneud penderfyniadau drws caeedig a allai wanhau mesurau diogelu hanfodol. Mae’r Bil hefyd yn bygwth gweithredu deddfwriaeth ddatganoledig, gan danseilio gallu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ym mhob llywodraeth i alinio polisïau ag anghenion a blaenoriaethau penodol eu dinasyddion.

Dywedodd Rachel Sharp, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru:

Bydd pobl Cymru yn colli mynediad i’r broses ddemocrataidd gan na fydd gan unrhyw un o’u haelodau etholedig llais i ddileu cannoedd o ddeddfau. Mae Bil  hefyd yn peryglu’n uniongyrchol allu’r Senedd i gyflawni’r nodau a nodir yn ei Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), gan ei fod yn rhoi twf economaidd o flaen yr holl egwyddorion cynaliadwyedd eraill.

Dywedodd Jo Pike, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Natur yr Alban:

Mae Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Ddargedwir yn fygythiad sylweddol i allu’r Alban i reoleiddio effeithiau ar natur. Er gwaethaf cael gwared a'r terfyn amser yn ddiweddar, rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn am oblygiadau’r ddeddfwriaeth hon. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i gydnabod pwysigrwydd craffu seneddol, ymgynghori ag arbenigwyr, a deddfwriaeth ddatganoledig o ran diogelu natur a bywyd gwyllt yr Alban.

Meddai Jennifer Fulton, Prif Weithredwr Ulster Wildlife:

Bydd symud oddi wrth gyfreithiau’r UE a ddargedwir yn creu heriau ychwanegol yng Ngogledd Iwerddon o gymharu â’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Mae Gogledd Iwerddon yn rhannu ffin tir ag Iwerddon sy'n parhau yn yr UE, ac mae deddfwriaeth a phrosesau cymaradwy cyfredol yn galluogi cydweithredu effeithiol ar draws cynefinoedd sy'n croesi ffiniau rhyngwladol. Nid yw rhywogaethau sy’n dirywio ac effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cydnabod ffiniau gwleidyddol ac ni fydd gwahaniaethau mewn safonau yn hybu cydweithio ar adferiad byd natur ar raddfa tirwedd.

Dim ond un o ystod eang o faterion y bydd Bil hwn yn effeithio arnynt yng Ngogledd Iwerddon yw cadwraeth natur, lle mae heddwch a ffyniant yn seiliedig ar integreiddio gyda Phrydain Fawr ac Iwerddon.

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn parhau i gefnogi Gwelliant 15 Lord Krebs a gwelliannau 6 a 42 Lord Anderson, a fyddai’n ymrwymo Llywodraeth y DU i atal unrhyw wanhau o ddeddfwriaeth amgylcheddol. Byddent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Llywodraeth y DU geisio cyngor arbenigol, megis cyngor Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd, cyn gwneud unrhyw newidiadau i Gyfraith yr UE a ddargedwir. Rhaid i Lywodraeth y DU wedyn gyhoeddi adroddiad yn manylu ar y cyngor a gawsant a sut nad yw unrhyw newidiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir yn lleihau amddiffyniadau amgylcheddol.

Yr wythnos nesaf bydd y Mesur yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin, lle bydd ASau unwaith eto’n cael cyfle i dderbyn gwelliannau’r Arglwyddi.