Big Wild Walk

Big Wild Walk 2021 - Web banner

Taith Gerdded Wyllt Fawr

Ymunwch â’r Daith Gerdded Wyllt Fawr ar gyfer natur a’r hinsawdd!

Helpwch yr Ymddiriedolaethau Natur i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd drwy herio’ch hun i gymryd rhan mewn Taith Gerdded Wyllt Fawr yn ystod mis Hydref eleni. Rhwng 24ain a 30ain Hydref, rydym yn gofyn i'r rhai sy'n hoffi byd natur godi arian i'r Ymddiriedolaethau Natur, wrth i ni ddechrau ar ein cenhadaeth i ddiogelu o leiaf 30% o’r tir a’r môr ar gyfer byd natur erbyn 2030. I gefnogi ein nod 30 erbyn 30, rydym yn eich herio chi i ymgymryd ag un o'r canlynol:

Cerdded 30km yn ystod wythnos y Daith Gerdded Wyllt Fawr

Cerdded 30km mewn tridiau

Cerdded 30km mewn un diwrnod

Beth am gymryd rhan yn yr Her Draenogod a cherdded 3km yn ystod yr wythnos – perffaith i blant ifanc!

Fel arall, gallwch greu eich her eich hun.

Cofrestru! 

Byddwn yn bendant yn argymell y Daith Gerdded Wyllt Fawr i unrhyw un! Mae’n ffordd wych o fynd allan i fyd natur, cyrraedd rhywle nad ydych chi wedi bod ynddo erioed o’r blaen efallai, gosod nod i chi’ch hun a cheisio ei chwalu!

Steve, cyfranogwr yn Nhaith Gerdded Wyllt Fawr 2021