Afancod yng Nghymru, beth yw eich barn CHI?

River Credit Alicia Leow-Dyke

Credit - Alicia Leow-Dyke

Afancod yng Nghymru, beth yw eich barn CHI?

Rydym yn gofyn i drigolion yng Nghymru rannu eu barn am afancod yn byw yn wyllt yng Nghymru.

Roedd afancod yn byw ym Mhrydain nes iddynt gael eu hela i ddifodiant tua 500 mlynedd yn ôl. Fe’u hailgyflwynwyd yn ddiweddar i’r Alban a Lloegr ac mae Prosiect Afancod Cymru, sy’n cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn ceisio ailsefydlu afancod yng Nghymru.

Mae Prifysgol Caerwysg yn cynnal arolwg cyhoeddus annibynnol i edrych ar safbwyntiau trigolion yng Nghymru am afancod sy’n byw yn y gwyllt. Bydd hyn yn helpu i ddeall agweddau at ddychwelyd afancod i Gymru, sut mae’r ymatebwyr yn teimlo am dechnegau rheoli afancod, a sut gall agweddau amrywio rhwng grwpiau o bobl.

Drwy gymryd rhan byddwch yn cyfrannu at well dealltwriaeth o sut mae’r cyhoedd yn meddwl am afancod yng Nghymru. Yn ei dro, bydd hyn yn helpu fel sail i benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch a ddylid bwrw ymlaen a sut.

Bydd y canlyniadau’n cael eu cyflwyno mewn adroddiad cryno i’w rannu gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Bydd yr adroddiad hwn ar gael i’r cyhoedd yn ddiweddarach yn 2023, a bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle i optio i mewn i dderbyn copi.

Mae holl drigolion Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan. Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 i 15 munud i’w gwblhau, a gellir ei gwblhau yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Cliciwch ar y linciau isod i gwblhau'r arolwg:

Cwblhewch yr arolwg yn Gymraeg

Complete the survey in English