Eirlys

Snowdrops

©Les Binns

Snowdrops

©Katrina Martin/2020VISION

Snowdrops

©Katrina Martin/2020VISION

Eirlys

Enw gwyddonol: Galanthus nivalis
Efallai mai’r arwydd cyntaf bod y gwanwyn ar ddod ydi’r eirlys yn gwthio’i ffordd drwy bridd barugog coetir, mynwent neu ardd. O fis Ionawr ymlaen, cadwch lygad am ei blodau gwylaidd, gwyn enwog.

Species information

Ystadegau

Height: up to 25cm

Statws cadwraethol

Wedi'i restru fel blodyn sy’n Agos At Fygythiad ar Restr Goch fyd-eang IUCN o Rywogaethau Dan Fygythiad.

Pryd i'w gweld

Ionawr i Fawrth

Ynghylch

Mae'r eirlys yn flodyn gwanwyn cyfarwydd, yn blodeuo ym mis Ionawr tan fis Mawrth. Er gwaethaf ei hanes maith yn y DU, fodd bynnag, efallai nad yw'n frodorol yma mewn gwirionedd; mae’n frodor o goedydd a dolydd llaith ar y cyfandir ac ni chafodd ei gofnodi fel blodyn yn tyfu’n wyllt yn y DU tan ddiwedd y 18fed ganrif. Serch hynny, mae'n sicr wedi datblygu i fod yn naturiol ar ôl dianc o erddi, ac mae 'cymoedd' o eirlysiau gwyn i'w gweld ledled y wlad bellach.

Sut i'w hadnabod

Mae gan yr eirlys flodau gwyn, gwylaidd, pob un ar goesyn unigol. Mae'r dail cul, llwydwyrdd yn ymddangos o amgylch bôn y coesyn. Mae planhigion eirlys yn ffurfio clystyrau yn aml.

Dosbarthiad

Widespread.

Roeddech chi yn gwybod?

Yn Swydd Efrog, roedd yn arferiad i forynion y pentref hel sypiau o eirlysiau a'u gwisgo fel symbol o'u purdeb ar Chwefror 2il, sef Gŵyl y Canhwyllau - gwledd y Forwyn Fair.