Glesyn y celyn

Holly Blue butterfly

Holly Blue ©Rachel Scopes

Holly Blue butterfly

Holly Blue ©Amy Lewis

Glesyn y celyn

Enw gwyddonol: Celastrina argiolus
Cadwch lygad am y glöyn byw bychan, Glesyn y Celyn, yn eich gardd neu barc lleol. Dyma'r glöyn byw glas cyntaf i ymddangos yn y gwanwyn, ac mae ail genhedlaeth yn ymddangos yn yr haf. Mae'r lindys yn hoff o gelyn ac eiddew.

Species information

Ystadegau

Lled yr adenydd: 2.6-3.4cm

Statws cadwraethol

Common.

Pryd i'w gweld

April to September

Ynghylch

Glöyn byw bychan glas yw glesyn y celyn sy'n dod i'r golwg yn gynnar yn y gwanwyn, o fis Mawrth i fis Mai, ac wedyn eto ar ddiwedd yr haf rhwng mis Gorffennaf a mis Medi. Dyma’r glöyn byw glas sydd fwyaf tebygol o gael ei ganfod mewn gerddi, yn ogystal â choetiroedd, parciau a mynwentydd. Mae'n tueddu i hedfan yn uchel o amgylch llwyni a choed, tra mae glöynnod byw glas eraill y glaswelltir yn hedfan yn isel tua'r ddaear. Planhigion bwyd y lindys yw Celyn yn bennaf (ar gyfer cenhedlaeth y gwanwyn) ac Eiddew (ar gyfer cenhedlaeth yr haf), er bod amrywiaeth eang o blanhigion eraill yn cael eu defnyddio, gan gynnwys piswydd, mieri ac eithin.

Sut i'w hadnabod

Glöyn byw glas llachar yw glesyn y celyn; mae gan y benywod ymylon adenydd du. Mae'n llai na'r glesyn mawr prin iawn, ac yn llawer mwy na'r glesyn bach sy’n fychan iawn. Mae'n wahanol i bob glesyn arall oherwydd y smotiau du ar ei ochr isaf ariannaidd las - smotiau oren sydd gan bob glesyn arall.

Dosbarthiad

I’w ganfod yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond yn absennol o'r Alban yn bennaf.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae poblogaethau glesyn y celyn yn amrywio'n aruthrol o flwyddyn i flwyddyn wrth iddynt gael eu parasitio gan wenyn meirch ichnewmon sy'n lladd cyfnod y larfa. Yn ei dro, mae’r gostyngiad yn nifer yr oedolion yn effeithio ar boblogaethau’r parasit, gan roi amser i boblogaethau glesyn y celyn adfer a’r cylch ailddechrau.

Sut y gall bobl helpu

Er mwyn denu glöynnod byw, fel glesyn y celyn, i'ch gardd, plannwch forderi llawn neithdar iddynt fwydo ar eu hyd ac eiddew dringol a llwyni ar gyfer pryfed sy'n gaeafu.